Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 4 - Ty Hywel |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 20 Tachwedd 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:45 - 11:50 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
David Melding (Cadeirydd) Paul Davies Elin Jones Sandy Mewies (yn lle Ann Jones) Eluned Parrott |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Steve George (Clerc) Kath Thomas (Dirprwy Glerc) Graham Winter (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniadau, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau a’r cyhoedd i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Ann Jones. Dirprwyodd Sandy Mewies ar ei rhan.
2 Craffu ar Waith y Gweinidog - Cydberthynas Llywodraeth Cymru â'r Trydydd Sector a'r Sector Preifat
2.1 Craffodd y Pwyllgor ar waith y Prif Weinidog yn y meysydd a ganlyn mewn perthynas â'r trydydd sector/cyrff anllywodraethol:
· Rôl y trydydd sector o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus;
· Cyllid a chystadleuaeth;
· Llywodraethu; a
· Gwerth am arian.
2.2 Yn dilyn hynny, craffodd y Pwyllgor ar waith y Prif Weinidog yn y meysydd a ganlyn mewn perthynas â'r sector preifat:
· Gweithredu Cynllun Busnes Gweinidogion Cymru;
· Defnydd Llywodraeth Cymru o fyrddau cynghori a arweinir gan y sector preifat;
· Rôl bosibl y sector preifat o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol; ac
· Effaith polisi a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru ar fusnes.
2.3 Gofynnodd y Cadeirydd nifer o gwestiynau i'r Prif Weinidog a anfonwyd at y Pwyllgor gan sefydliadau ac aelodau'r cyhoedd, a hynny gan ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol.
2.4 Cytunodd y Prif Weinidog i ysgrifennu at y Pwyllgor er mwyn darparu rhagor o wybodaeth am:
· Ba rai o'r argymhellion a wnaed yn adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru, Cydberthynas Llywodraeth Cymru â Chymdeithas Lleiafrifoedd Ethnig Cymru Gyfan, a gafodd eu derbyn a'u gweithredu;
· Y gwahaniaeth y mae'r cynllun grantiau cydraddoldeb wedi'i wneud i'r trydydd sector ac i'r sefydliadau sydd wedi cael cyllid, ac i ddull Llywodraeth Cymru o fonitro'r cynllun;
· Sut y mae Llywodraeth Cymru yn mesur effeithiolrwydd Uned Partneriaid Cymdeithasol Cymru.
2.5 Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am ragor o wybodaeth am yr amserlen ar gyfer y grwpiau gorchwyl a gorffen.
3 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y canlynol:
3.1 Cytunodd y Pwyllgor ar y cynnig.
4 Trafod y dystiolaeth o'r sesiynau blaenorol
4.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan y Prif Weinidog yn ystod y sesiwn graffu flaenorol.
5 Trafod ymateb y Prif Weinidog i argymhellion y Pwyllgor yn dilyn ei gyfarfod diwethaf
5.1 Trafododd y Pwyllgor ymateb y Prif Weinidog i'r llythyr a anfonwyd gan y Pwyllgor ar seilwaith gogledd Cymru yn dilyn ei gyfarfod yng ngogledd Cymru ar 19 Gorffennaf. Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at y Prif Weinidog i ofyn am eglurder ar nifer o faterion.